Deuteronomy 15:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pob cyntaf‐anedig yr hwn a enir o'th wartheg, neu o'th ddefaid, yn wryw, a gysegri di i'r ARGLWYDD dy DDUW: na weithia â chyntaf‐anedig dy ychen, ac na chneifia gyntaf‐anedig dy ddefaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Rhaid i bob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni gael ei gadw i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD — o'r gwartheg, defaid a geifr. Peidiwch gwneud i'r ychen oedd gyntaf i gael ei eni weithio, na cneifio'r ddafad neu'r afr gyntaf i gael ei geni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyt i gysegru i'r ARGLWYDD dy Dduw bob gwryw cyntafanedig a enir i'th wartheg a'th ddefaid. Nid wyt i lafurio chyntafanedig dy wartheg, na chneifio cyntafanedig dy ddefaid.