Deuteronomy 15:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dyma wedd y gollyngdod. Gollynged pob echwynnwr i'w gymydog yn rhydd ei echwyn a echwynnodd efe: na fynned hynny drachefn gan ei gymydog, neu ei frawd; canys cyhoeddwyd gollyngdod yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma beth sydd i ddigwydd: Rhaid i'r credydwr ddileu unrhyw ddyledion sydd gan bobl eraill iddo. Ddylai e ddim gorfodi un o'i gydwladwyr yn Israel i dalu'r ddyled. Mae'r amser i ganslo dyledion wedi dechrau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma sut y gwneir hynny: bydd pob echwynnwr yn dileu pob dyled sy'n ddyledus iddo, heb bwyso am ad-daliad oddi wrth gymydog na pherthynas, pan gyhoeddir yn enw'r ARGLWYDD ei bod yn bryd dileu dyledion.