Deuteronomy 15:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn unig os gan wrando y gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, gan gadw a gwneuthur yr holl orchmynion yma, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
os byddwch chi'n ufudd ac yn cadw'r holl orchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond iti wrando'n ofalus ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, i gadw'n ddyfal yr holl orchymyn hwn yr wyf fi yn ei roi iti heddiw.