Deuteronomy 15:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr ARGLWYDD dy DDUW a'th fendithia, megis y llefarodd wrthyt, fel y benthyciech i genhedloedd lawer, ac na fenthyciech di ganddynt; ti hefyd a arglwyddiaethi ar genhedloedd lawer, ac nid arglwyddiaethant hwy arnat ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio, fel gwnaeth e addo. Bydd pobl Israel yn benthyg i wledydd eraill, ond ddim yn gorfod benthyca gan unrhyw un. Bydd Israel yn rheoli gwledydd eraill, ond fyddan nhw ddim yn eich rheoli chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio, fel yr addawodd iti, yna byddi di'n rhoi benthyg i genhedloedd lawer, heb i ti fenthyca gan neb; a byddi'n rheoli cenhedloedd lawer, heb iddynt hwy dy reoli di.