Deuteronomy 15:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwylia arnat, rhag bod yn dy galon ddrwg feddwl i ddywedyd, Agos yw'r seithfed flwyddyn, blwyddyn y gollyngdod a bod dy lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd, rhag rhoddi iddo, a llefain ohono ef ar yr ARGLWYDD rhagot, a'i fod yn bechod i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn meddwl pethau drwg pan mae'r seithfed flwyddyn (sef blwyddyn canslo dyledion) yn agosáu. Peidiwch meithrin agwedd anghywir tuag at eich cyd-Israeliad sydd mewn angen, a gwrthod benthyg iddo. Bydd e'n cwyno i'r ARGLWYDD amdanoch chi, a byddwch chi wedi pechu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fydd y seithfed flwyddyn, blwyddyn dileu dyledion, yn agosu, gwylia rhag coleddu meddyliau annheilwng ac edrych yn gas ar dy berthynas tlawd a gwrthod rhoi iddo; bydd yntau wedyn yn apelio at yr ARGLWYDD yn dy erbyn, ac fe'th geir yn euog o bechod.