Deuteronomy 16:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llawenycha gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, ti, a'th fab, a'th ferch, a'th was, a'th forwyn, a'r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth, a'r dieithr, a'r amddifad, a'r weddw, sydd yn dy fysg, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW i drigo o'i enw ef ynddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwch yn dathlu o'i flaen — gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddi'n llawenhau gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, ti, dy fab a'th ferch, dy gaethwas a'th gaethferch, y Lefiad sydd yn dy drefi a'r dieithryn, a'r amddifad a'r weddw sydd gyda thi, yn y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw.