Deuteronomy 16:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Saith niwrnod y cedwi ŵyl i'r ARGLWYDD dy DDUW, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD: canys yr ARGLWYDD dy DDUW a'th fendithia yn dy holl gnwd, ac yn holl waith dy ddwylo; am hynny bydd dithau lawen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwch yn dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod, yn y lle mae e wedi ei ddewis, am ei fod e wedi bendithio eich holl waith chi. Felly bydd gynnoch chi le i ddathlu go iawn!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am saith diwrnod y byddi'n cadw gu373?yl i'r ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis, oherwydd bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn dy holl gynnyrch ac ym mhopeth a wnei, a byddi'n wirioneddol lawen.