Deuteronomy 16:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na fwyta fara lefeinllyd gydag ef: saith niwrnod y bwytei gydag ef fara croyw, sef bara cystudd: (canys ar ffrwst y daethost allan o dir yr Aifft:) fel y cofiech ddydd dy ddyfodiad allan o dir yr Aifft holl ddyddiau dy einioes.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A peidiwch bwyta bara gyda burum ynddo. Fel symbol o galedi, rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod, am eich bod wedi gadael yr Aifft ar frys. Dych chi i wneud hyn er mwyn cofio, am weddill eich bywydau, y diwrnod hwnnw y daethoch chi allan o'r Aifft.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid wyt i fwyta gydag ef ddim wedi ei lefeinio; ond am saith diwrnod yr wyt i fwyta bara croyw, bara cystudd, oherwydd ar frys y daethost allan o wlad yr Aifft. Gwna hyn er mwyn iti gofio tra byddi byw y dydd y daethost allan o wlad yr Aifft.