Deuteronomy 17:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan ddelych i'r tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, a'i feddiannu, a thrigo ynddo, os dywedi, Gosodaf arnaf frenin, megis yr holl genhedloedd sydd o'm hamgylch:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ar ôl i chi goncro'r tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi, a setlo i lawr i fyw yno, byddwch yn penderfynu eich bod eisiau brenin yr un fath â'r gwledydd o'ch cwmpas chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddoi i'r wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti, a'i meddiannu a byw ynddi, ac yna dweud, "Yr wyf am gymryd brenin, fel yr holl genhedloedd o'm hamgylch",