Deuteronomy 17:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel na ddyrchafo ei galon uwchlaw ei frodyr, ac na chilio oddi wrth y gorchymyn, i'r tu deau nac i'r tu aswy: fel yr estynno ddyddiau yn ei frenhiniaeth efe a'i feibion yng nghanol Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth wneud hynny fydd e ddim yn ystyried ei hun yn well na'i gyd-Israeliaid, nac yn crwydro oddi wrth y cyfarwyddiadau dw i wedi eu rhoi. A bydd e a'i ddisgynyddion yn cael teyrnasu am hir dros wlad Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
rhag iddo ei ystyried ei hun yn uwch na'i gymrodyr, neu rhag iddo wyro i'r dde nac i'r chwith oddi wrth y gorchymyn, ac er mwyn iddo estyn dyddiau ei frenhiniaeth yn Israel iddo'i hun a'i ddisgynyddion.