Deuteronomy 19:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis pan elo un gyda'i gymydog i'r coed i gymynu pren, ac a estyn ei law â'r fwyell i dorri y pren, a syrthio yr haearn o'r menybr, a chyrhaeddyd ei gymydog, fel y byddo farw; efe a gaiff ffoi i un o'r dinasoedd hyn, a byw:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er enghraifft, lle mae dau ddyn wedi mynd i'r goedwig i dorri coed, ac wrth i un godi ei fwyell, mae blaen y fwyell yn dod i ffwrdd o'r goes ac yn taro'r llall a'i ladd. Mae'r dyn wnaeth ladd yn gallu dianc i un o'r trefi yma.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
er enghraifft, rhywun fydd yn mynd gyda'i gymydog i'r goedwig i dorri coed, ac wrth iddo estyn ei law gyda'r fwyell i dorri coeden, y mae pen y fwyell yn neidio oddi ar y pren ac yn rhoi ergyd farwol i'w gymydog. Caiff hwn ffoi i un o'r dinasoedd hyn ac arbed ei fywyd,