Deuteronomy 19:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhag i ddialydd y gwaed ddilyn ar ôl y llofrudd, a'i galon yn llidiog, a'i oddiweddyd, am fod y ffordd yn hir, a'i daro ef yn farw, er nad oedd ynddo ef haeddedigaeth marwolaeth, am nad oedd efe yn ei gasáu ef o'r blaen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os na fydd yn gwneud hynny gall perthynas agosa'r dyn laddwyd ei ddal, a dial arno a'i ladd. Ond doedd e ddim wir yn haeddu hynny, am nad oedd e wedi bwriadu unrhyw ddrwg pan ddigwyddodd y ddamwain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
rhag i'r dialydd gwaed yn ei gynddaredd ddilyn y lleiddiad a'i ddal oherwydd meithder y daith, a'i daro'n farw, er nad oedd yn haeddu marw, am nad oedd yn casu ei gymydog o'r blaen.