Deuteronomy 2:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Horiaid hefyd a breswyliasant yn Seir o'r blaen; a meibion Esau a ddaeth ar eu hôl hwynt, ac a'u difethasant o'u blaen, a thrigasant yn eu lle hwynt; fel y gwnaeth Israel i wlad ei etifeddiaeth yntau, yr hon a roddes yr ARGLWYDD iddynt.)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A'r Horiaid oedd yn arfer byw yn Seir, ond roedd disgynyddion Esau wedi eu concro nhw a setlo i lawr ar eu tiroedd. A dyna'n union wnaeth Israel yn y tir y daethon nhw i'w gymryd, sef y tir roddodd yr ARGLWYDD iddyn nhw.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A hefyd yn yr amser gynt yr oedd yr Horiaid yn byw yn Seir, ond cymerodd tylwyth Esau eu tiriogaeth a'u difa hwy o'u blaen, a byw yno yn eu lle, fel y gwnaeth yr Israeliaid yn y tir a roddodd yr ARGLWYDD yn feddiant iddynt.