Deuteronomy 2:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddelych di gyferbyn â meibion Ammon, na orthryma hwynt, ac nac ymyrr arnynt; oblegid ni roddaf feddiant o dir meibion Ammon i ti; canys rhoddais ef yn etifeddiaeth i feibion Lot.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddowch chi at dir pobl Ammon, peidiwch tarfu arnyn nhw ychwaith na dechrau ymladd gyda nhw. Dw i ddim am roi eu tir nhw i chi o gwbl. Dw i wedi ei roi e iddyn nhw, sy'n ddisgynyddion i Lot.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddoi at ffin yr Ammoniaid, paid 'u cythruddo na'u bygwth, oherwydd ni roddaf feddiant o'u tir i ti, am fy mod wedi ei roi yn feddiant i dylwyth Lot."