Deuteronomy 2:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyfodwch, cychwynnwch, ac ewch dros afon Arnon: wele, rhoddais yn dy law di Sehon brenin Hesbon, yr Amoriad, a'i wlad ef; dechrau ei meddiannu hi, a rhyfela yn ei erbyn ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Ewch yn eich blaenau, a croesi Ceunant Arnon. Dw i'n mynd i roi buddugoliaeth i chi dros Sihon yr Amoriad, brenin Cheshbon. Ewch i goncro ei dir! Ewch i ryfel yn ei erbyn!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Cychwynnwch yn awr ar eich taith, a chroeswch nant Arnon. Edrych, yr wyf yn rhoi Sihon yr Amoriad, brenin Hesbon, a'i wlad yn dy law. Dos ati i'w meddiannu, ac ymosod arno.