Deuteronomy 2:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gorchymyn i'r bobl, gan ddywedyd, Yr ydych i dramwyo trwy derfynau eich brodyr, meibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir: a hwythau a ofnant rhagoch ond ymgedwch yn ddyfal.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dywed hyn wrth y bobl, “Dych chi ar fin croesi'r ffin i diriogaeth pobl Edom, sy'n perthyn i chi (sef disgynyddion Esau). Ond bydd ganddyn nhw eich ofn chi, felly byddwch yn ofalus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gorchymyn i'r bobl a dweud wrthynt, 'Yr ydych yn mynd i deithio trwy diriogaeth eich perthnasau, tylwyth Esau, sy'n byw yn Seir.