Deuteronomy 2:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr ARGLWYDD dy DDUW a'th fendithiodd di yn holl waith dy law: gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn: y deugain mlynedd hyn y bu yr ARGLWYDD dy DDUW gyda thi; ni bu arnat eisiau dim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi bendithio popeth dych chi wedi ei wneud. Mae wedi gofalu amdanoch chi tra dych chi wedi bod yn crwydro yn yr anialwch yma ers pedwar deg o flynyddoedd. Mae e wedi bod gyda chi drwy'r amser, ac wedi rhoi i chi bopeth oedd arnoch chi ei angen.”’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi dy fendithio yn y cyfan a wnaethost, ac wedi gwylio dy daith yn yr anialwch mawr hwn; am y deugain mlynedd hyn bu'r ARGLWYDD dy Dduw gyda thi, ac ni fu arnat eisiau dim."