Deuteronomy 20:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled meirch a cherbydau, a phobl fwy na thi, nac ofna rhagddynt: oherwydd yr ARGLWYDD dy DDUW fydd gyda thi, yr hwn a'th ddug di i fyny o dir yr Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan fyddwch chi'n mynd i ryfel yn erbyn eich gelynion, ac yn gweld eu holl geffylau a'u cerbydau, a bod ganddyn nhw lawer mwy o filwyr na chi, peidiwch bod ag ofn. Mae'r ARGLWYDD Dduw, wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, gyda chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fyddi'n mynd allan i ryfel yn erbyn dy elynion, ac yn canfod meirch a cherbydau a byddin, a'r rheini'n gryfach na'th rai di, paid 'u hofni, oherwydd gyda thi y mae yr ARGLWYDD dy Dduw, a ddaeth thi i fyny o wlad yr Aifft.