Deuteronomy 20:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan warchaeech ar ddinas lawer o ddyddiau, gan ryfela yn ei herbyn i'w hennill hi, na ddifetha ei choed hi, gan daro bwyell arnynt: canys ohonynt y bwytei; na thor dithau hwynt i lawr, (oherwydd bywyd dyn yw pren y maes,) i'w gosod yn y gwarchglawdd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os byddwch chi'n gwarchae am amser hir ar dref dych chi'n ymosod arni, rhaid i chi beidio torri ei choed ffrwythau i lawr. Gallwch fwyta'r ffrwyth oddi arnyn nhw, ond peidiwch torri nhw i lawr. Dydy'r coed ffrwythau ddim yn elynion chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fydd tref dan warchae gennyt am amser maith, a thithau'n ymladd i'w hennill, paid difa ei choed trwy eu torri bwyell. Cei fwyta o'u ffrwyth, ond paid 'u torri i lawr. Ai pobl yw coed y maes, iti osod gwarchae yn eu herbyn?