Deuteronomy 21:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na thriged ei gelain dros nos wrth y pren, ond gan gladdu ti a'i cleddi ef o fewn y dydd hwnnw: oherwydd melltith DDUW sydd i'r hwn a grogir: ac na haloga dy dir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
rhaid peidio gadael y corff i hongian dros nos. Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn ei gladdu yr un diwrnod. Mae rhywun sydd wedi ei grogi ar bren dan felltith Duw. Rhaid i chi beidio halogi'r wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
nid yw ei gorff i aros dros nos ar y pren; rhaid iti ei gladdu'r un diwrnod, oherwydd y mae un a grogwyd ar bren dan felltith Duw. Nid wyt i halogi'r tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti'n etifeddiaeth.