Deuteronomy 22:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gosod yn ei herbyn anair, a rhoddi allan enw drwg iddi, a dywedyd, Y wraig hon a gymerais; a phan euthum ati, ni chefais ynddi forwyndod:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n ei chyhuddo hi o gamfihafio, ac yn dweud, ‘Dw i wedi priodi'r ferch yma, ond wrth gael rhyw gyda hi, darganfod ei bod hi ddim yn wyryf!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yn rhoi gair drwg iddi, ac yn pardduo'i chymeriad a dweud, "Priodais y ddynes hon, ond pan euthum ati ni chefais brawf o'i gwyryfdod."