Deuteronomy 22:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna cymered tad y llances a'i mam, a dygant arwyddion morwyndod y llances at henuriaid y ddinas i'r porth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan mae hyn yn digwydd, rhaid i rieni'r ferch ifanc fynd â'r dystiolaeth ei bod hi'n wyryf i'w ddangos i arweinwyr y dref yn y llys wrth giatiau'r dref.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os felly, fe gymer tad a mam yr eneth brawf gwyryfdod yr eneth a'i ddangos i'r henuriaid ym mhorth y dref;