Deuteronomy 22:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a'i dirwyant ef mewn can sicl o arian, ac a'u rhoddant hwynt i dad y llances; o achos iddo ddwyn enw drwg ar y forwyn o Israel: a bydd hi yn wraig iddo; ac ni ddichon ei gyrru ymaith yn ei holl ddyddiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw i roi dirwy o gant o ddarnau arian iddo, a rhoi'r arian hwnnw i dad y ferch ifanc. Roedd ei gyhuddiad wedi rhoi enw drwg i un o ferched ifanc Israel, a hithau yn wyryf. Bydd y ferch yn aros yn wraig iddo am weddill ei fywyd, a fydd ganddo ddim hawl i'w hysgaru hi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddant arno ddirwy o gan sicl arian, i'w rhoi i dad yr eneth, am iddo bardduo cymeriad gwyryf o Israel; a bydd hi'n wraig iddo, ac ni all ei hysgaru tra bydd byw.