Deuteronomy 23:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd bod yr ARGLWYDD dy DDUW yn rhodio ymhlith dy wersyllau, i'th waredu, ac i roddi dy elynion o'th flaen di; am hynny bydded dy wersyllau yn sanctaidd; fel na welo ynot ti ddim brynti, a throi oddi wrthyt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r gwersyll i'w gadw'n lân. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn cerdded o gwmpas y gwersyll; mae e gyda chi i'ch achub a'ch galluogi chi i ennill y frwydr. Does gynnoch chi ddim eisiau iddo fe weld rhywbeth afiach, a troi cefn arnoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn rhodio trwy ganol y gwersyll i'th waredu a darostwng d'elynion o'th flaen; felly rhaid i'th wersyll fod yn sanctaidd, rhag iddo ef weld dim anweddus yno, a throi i ffwrdd oddi wrthyt.