Deuteronomy 23:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan estron y cymeri ocraeth; ond na chymer ocraeth gan dy frawd: fel y bendithio yr ARGLWYDD dy DDUW di ym mhob peth y rhoddych dy law arno, yn y tir yr ydwyt yn myned iddo i'w feddiannu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cewch godi llog ar fenthyciad i bobl sydd ddim yn Israeliaid, ond peidiwch gwneud hynny wrth fenthyg i'ch pobl eich hunain. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn bendithio popeth wnewch chi, yn y wlad dych chi ar fin ei chymryd, os byddwch chi'n ufudd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cei godi llog ar yr estron, ond nid ar un o'th dylwyth, er mwyn iti dderbyn bendith gan yr ARGLWYDD dy Dduw ym mhopeth y byddi'n ei wneud yn y wlad yr wyt ar ddod i'w meddiannu.