Deuteronomy 24:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog; ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac â hyn y mae yn cynnal ei einioes: fel na lefo ar yr ARGLWYDD yn dy erbyn, a bod pechod ynot.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylech dalu ei gyflog iddo cyn diwedd y dydd, am ei fod yn dlawd ac angen yr arian i fyw. Os fyddwch chi ddim yn talu iddo bydd e'n cwyno i'r ARGLWYDD amdanoch chi, a byddwch chi wedi pechu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rho ei gyflog iddo bob dydd cyn i'r haul fachlud, rhag iddo achwyn arnat wrth yr ARGLWYDD ac i ti dy gael yn euog o bechod, oherwydd y mae'n anghenus ac yn dibynnu arno.