Deuteronomy 24:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni ddichon ei phriod cyntaf, yr hwn a'i gollyngodd hi ymaith, ei chymryd hi drachefn i fod yn wraig iddo, wedi iddi ymhalogi: canys ffieidd‐dra yw hwn o flaen yr ARGLWYDD; ac na wna i'r wlad bechu, yr hon a rydd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti yn etifeddiaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dydy'r gŵr cyntaf ddim i gael ei chymryd hi'n ôl, am ei bod bellach yn aflan. Byddai peth felly yn ffiaidd yng ngolwg yr ARGLWYDD. Rhaid i chi beidio dod â pechod ar y wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi i'w hetifeddu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yna ni all ei phriod cyntaf, a oedd wedi ei hysgaru, ei hailbriodi wedi iddi gael ei halogi. Byddai hynny'n beth ffiaidd gerbron yr ARGLWYDD, ac nid ydych i ddwyn pechod ar y wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi'n feddiant ichwi.