Deuteronomy 24:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan gymero gŵr wraig newydd, nac eled i ryfel, ac na rodder gofal dim arno: caiff fod gartref yn rhydd un flwyddyn, a llawenhau ei wraig a gymerodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan mae dyn newydd briodi, does dim rhaid iddo fynd allan i ymladd yn y fyddin na gorfod gwneud unrhyw wasanaeth cyhoeddus arall. Dylai fod yn rhydd i aros adre am flwyddyn gyfan a mwynhau bywyd gyda'i wraig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd dyn newydd briodi, nid yw i fynd i ffwrdd gyda'r fyddin nac ar ddyletswyddau eraill; y mae'n rhydd i aros gartref am flwyddyn gron a bod yn llawen gyda'i wraig.