Deuteronomy 24:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan gaffer gŵr yn lladrata un o'i frodyr o feibion Israel, ac yn ymelwa arno, neu yn ei werthu; yna lladder y lleidr hwnnw, a thyn di ymaith y drwg o'th fysg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy rhywun yn cael ei ddal yn herwgipio un o'i gyd-Israeliaid, ac yn ei drin fel eiddo a'i werthu, y gosb ydy marwolaeth. Rhaid cael gwared â'r drwg yna o'ch plith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os ceir bod rhywun wedi herwgipio un o'i gydwladwyr yn Israel, a'i amddifadu o'i hawliau trwy ei werthu, yna y mae'r herwgipiwr hwnnw i farw; felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg.