Deuteronomy 25:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny bydded, pan roddo yr ARGLWYDD dy DDUW i ti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion oddi amgylch, yn y tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i'w feddiannu, dynnu ohonot ymaith goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd: nac anghofia hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan fyddwch chi'n cael llonydd gan yr holl elynion o'ch cwmpas chi yn y wlad mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi i chi, rhaid i chi ladd yr Amaleciaid i gyd — nes bydd neb yn cofio am eu bodolaeth nhw! Peidiwch chi anghofio gwneud hyn!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi rhoi iti lonydd oddi wrth dy holl elynion o'th amgylch yn y wlad y mae'n ei rhoi iti i'w meddiannu'n etifeddiaeth, yr wyt i ddileu coffadwriaeth Amalec oddi tan y nef. Paid ag anghofio.