Deuteronomy 25:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac oni bydd bodlon y gŵr i gymryd ei gyfathrachwraig; yna aed ei gyfathrachwraig i fyny i'r porth at yr henuriaid, a dyweded, Gwrthododd fy nghyfathrachwr godi i'w frawd enw yn Israel: ni fyn efe wneuthur rhan cyfathrachwr â mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os ydy'r dyn ddim eisiau priodi gweddw ei frawd, rhaid i'r weddw fynd at yr arweinwyr hŷn i'r llys wrth giât y dref a dweud wrthyn nhw, ‘Mae brawd fy ngŵr yn gwrthod wynebu ei gyfrifoldeb fel brawd-yng-nghyfraith, a cadw enw fy ngŵr yn fyw yn Israel!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os na bydd y dyn hwnnw'n dymuno priodi ei chwaer-yng-nghyfraith, aed honno i fyny i'r porth at yr henuriaid a dweud, "Y mae fy mrawd-yng-nghyfraith yn gwrthod sicrhau bod enw ei frawd yn parhau yn Israel; nid yw'n fodlon cyflawni dyletswydd brawd-yng-nghyfraith mi."