Deuteronomy 26:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywed gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, Dygais y peth cysegredig allan o'm tŷ, ac a'i rhoddais ef i'r Lefiad, ac i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw, yn ôl dy holl orchmynion a orchmynnaist i mi: ni throseddais ddim o'th orchmynion ac nis anghofiais.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna rwyt i ddweud wrth yr ARGLWYDD dy Dduw, ‘Dw i wedi casglu'r offrwm sydd i gael ei osod o'r neilltu, ac wedi ei roi i'r Lefiaid, mewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon, yn union fel rwyt ti wedi dweud wrtho i. Dw i ddim wedi torri nac anghofio dy reolau di.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywed gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, "Yr wyf wedi gwacu'r tu375? o'r hyn oedd wedi ei gysegru, ac wedi ei roi i'r Lefiad, y dieithryn, yr amddifad a'r weddw, yn union fel y gorchmynnaist imi; nid wyf wedi troseddu yn erbyn yr un o'th orchmynion na'u hanghofio.