Deuteronomy 26:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dos at yr offeiriad a fydd yn y dyddiau hynny, a dywed wrtho, Yr ydwyf fi yn cyfaddef heddiw i'r ARGLWYDD dy DDUW, fy nyfod i'r tir a dyngodd yr ARGLWYDD wrth ein tadau ar ei roddi i ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedwch wrth yr offeiriad sy'n gwasanaethu bryd hynny, ‘Dw i'n datgan heddiw fy mod i'n byw yn y wlad wnaeth yr ARGLWYDD dy Dduw addo i'n hynafiaid y byddai'n ei rhoi i ni.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dos at yr offeiriad a fydd yr adeg honno, a dywed wrtho, "Yr wyf heddiw'n datgan gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw imi ddod i'r wlad yr addawodd yr ARGLWYDD i'n hynafiaid y byddai'n ei rhoi inni."