Deuteronomy 26:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llefara dithau, a dywed gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, Syriad ar ddarfod amdano oedd fy nhad; ac efe a ddisgynnodd i'r Aifft, ac a ymdeithiodd yno ag ychydig bobl, ac a aeth yno yn genedl fawr, gref, ac aml.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna rhaid i ti wneud y datganiad yma: ‘Syriad yn crwydro yma ac acw oedd fy hynafiad. Aeth i lawr i'r Aifft a byw yno fel mewnfudwr. Criw bach oedd yn y teulu bryd hynny, ond dyma nhw'n tyfu i fod yn genedl fawr, bwerus a niferus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyt tithau wedyn i ddweud gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, "Aramead ar grwydr oedd fy nhad; aeth i lawr i'r Aifft gyda mintai fechan, a byw yno'n ddieithryn, ond tyfodd yn genedl fawr, rymus a lluosog.