Deuteronomy 28:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os gan wrando y gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, i gadw ac i wneuthur ei holl orchmynion ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw; yna yr ARGLWYDD dy DDUW a'th esyd yn uwch na holl genhedloedd y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os byddwch chi wir yn ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw, a gwneud yn siŵr eich bod chi'n cadw'r gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw, bydd e'n eich gwneud chi'n fwy enwog na'r cenhedloedd eraill i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os byddi'n gwrando'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, ac yn gofalu cadw popeth y mae'n ei orchymyn iti heddiw, yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy osod yn uwch na holl genhedloedd y byd.