Deuteronomy 28:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bydd, oni wrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, gan gadw a gwneuthur ei holl orchmynion ef a'i ddeddfau, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; y daw arnat yr holl felltithion hyn, ac y'th oddiweddant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond os byddwch chi'n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw, heb wneud yn siŵr eich bod chi'n cadw ei orchmynion a'i ganllawiau e, bydd llond gwlad o felltithion yn dod arnoch chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os na fyddi'n gwrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, i ofalu cyflawni ei holl orchmynion a'i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu rhoi iti heddiw, yna fe ddaw i'th ran yr holl felltithion hyn, ac fe'th amgylchant: