Deuteronomy 28:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ARGLWYDD a ddenfyn arnat ti felltith, trallod, a cherydd, yn yr hyn oll y dodych dy law arno, ac yn yr hyn a wnelych; nes dy ddinistrio a'th ddifetha di yn gyflym; am ddrygioni dy weithredoedd yn y rhai y'm gwrthodaist i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr ARGLWYDD yn melltithio, drysu a gwrthwynebu popeth wnewch chi, nes byddwch chi wedi'ch dinistrio ac wedi diflannu o achos yr holl ddrwg fyddwch chi'n ei wneud, ac am eich bod chi wedi troi cefn arna i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr ARGLWYDD yn anfon arnat felltithion, dryswch, a cherydd ym mha beth bynnag yr wyt yn ei wneud, nes dy ddinistrio a'th ddifetha'n gyflym oherwydd drygioni dy waith yn ei wrthod.