Deuteronomy 28:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ARGLWYDD a wna i ti syrthio o flaen dy elynion: trwy un ffordd yr ei di yn eu herbyn hwynt, a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o'u blaen hwynt: a thi a fyddi ar wasgar dros holl deyrnasoedd y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr ARGLWYDD yn gadael i'ch gelynion eich trechu chi. Byddwch chi'n ymosod arnyn nhw o un cyfeiriad, ond yn gorfod dianc i bob cyfeiriad! Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn ddychryn i wledydd y byd i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr ARGLWYDD yn dy ddryllio o flaen d'elynion; byddi'n mynd allan yn eu herbyn ar hyd un ffordd, ond yn ffoi rhagddynt ar hyd saith, a bydd hyn yn arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear.