Deuteronomy 28:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Byddi hefyd yn ymbalfalu ganol dydd, fel yr ymbalfalai y dall yn y tywyllwch; ac ni lwyddi yn dy ffyrdd: a diau y byddi orthrymedig ac anrheithiedig byth, ac ni bydd a'th waredo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwch chi'n ymbalfalu ganol dydd fel rhywun dall sydd yn y tywyllwch, a fydd dim fyddwch chi'n ei wneud yn llwyddo. Bydd pobloedd eraill yn eich cam-drin chi ac yn dwyn oddi arnoch chi o hyd, a fydd yna neb i'ch achub chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a byddi'n ymbalfalu ar hanner dydd, fel y bydd y dall yn ymbalfalu mewn tywyllwch, heb lwyddo i gael dy ffordd. Cei dy orthrymu a'th ysbeilio'n feunyddiol heb neb i'th achub.