Deuteronomy 28:36 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ARGLWYDD a'th ddwg di, a'th frenin a osodych arnat, at genedl nid adnabuost ti na'th dadau di; a gwasanaethi yno dduwiau dieithr, pren a maen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi, a'r brenin fyddwch chi wedi ei benodi drosoch, at bobl ydych chi a'ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw, ac yno byddwch chi'n addoli duwiau o bren a charreg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr ARGLWYDD yn dy ddanfon di, a'r brenin y byddi'n ei osod arnat, at genedl na fu i ti na'th gyndadau ei hadnabod; ac yno byddi'n gwasanaethu duwiau estron o bren a charreg.