Deuteronomy 28:45 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r holl felltithion hyn a ddaw arnat, ac a'th erlidiant, ac a'th oddiweddant, hyd oni'th ddinistrier; am na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, i gadw ei orchmynion a'i ddeddfau ef, y rhai a orchmynnodd efe i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bydd y melltithion yma i gyd yn dod arnoch chi. Fydd dim dianc, a byddwch yn cael eich dinistrio, am eich bod heb fod yn ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw, ac heb gadw'r gorchmynion a'r canllawiau roddodd e i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daw'r holl felltithion hyn arnat, a'th ddilyn a'th amgylchu nes iti gael dy ddinistrio, am na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw na chadw ei orchmynion a'i ddeddfau fel y gorchmynnodd iti.