Deuteronomy 28:48 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y gwasanaethi di dy elynion, y rhai a ddenfyn yr ARGLWYDD yn dy erbyn, mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noethni, ac mewn eisiau pob dim; ac efe a ddyry iau haearn ar dy wddf, hyd oni ddinistrio efe dydi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
felly byddwch chi'n gwasanaethu'r gelynion wnaeth yr ARGLWYDD eu hanfon i ymosod arnoch chi. Byddwch chi'n dioddef o newyn a syched, yn noeth ac yn dlawd. Byddan nhw'n gosod iau haearn ar eich gwar, a gwneud i chi weithio mor galed bydd yn ddigon i'ch lladd chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eithr mewn newyn a syched, noethni a dirfawr angen, byddi'n gwasanaethu'r gelynion y mae'r ARGLWYDD yn eu hanfon yn dy erbyn. Bydd yn gosod iau haearn ar dy war nes iddo dy ddinistrio.