Deuteronomy 28:52 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a warchae arnat ti yn dy holl byrth, hyd oni syrthio dy uchel a'th gedyrn gaerau, y rhai yr ydwyt yn ymddiried ynddynt, trwy dy holl dir: hi a warchae hefyd arnat yn dy holl byrth, o fewn dy holl dir yr hwn a roddodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n gwarchae ar giatiau eich trefi amddiffynnol chi ac ymosod ar y waliau uchel nes byddan nhw wedi syrthio — a chithau'n rhoi cymaint o ffydd yn y trefi yma! Byddan nhw'n gwarchae ar drefi drwy'r wlad i gyd
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yn gwarchae ar bob dinas o'th eiddo trwy dy holl wlad, nes y bydd pob un o'th furiau uchel, yr wyt yn ymddiried ynddynt i'th amddiffyn, yn cwympo; ie, bydd yn gwarchae ar bob dinas o'th eiddo trwy'r holl wlad a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti.