Deuteronomy 28:53 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ffrwyth dy fru, sef cig dy feibion a'th ferched, y rhai a roddodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti, a fwytei yn y gwarchae, ac yn y cyfyngdra a ddwg dy elyn arnat.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a'ch cau chi i mewn, a bydd pethau'n mynd mor ofnadwy byddwch chi'n bwyta eich plant — ie, bwyta cnawd eich meibion a'ch merched!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y cyni a achosir iti gan warchae dy elyn, byddi'n bwyta ffrwyth dy gorff dy hun, cnawd dy feibion a'th ferched, a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti.