Deuteronomy 28:56 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y wraig dyner a'r foethus yn dy fysg, yr hon ni phrofodd osod gwadn ei throed ar y ddaear, gan fwythau a thynerwch, a greulona ei llygad wrth ŵr ei mynwes, ac wrth ei mab, ac wrth ei merch,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
[56-57] Bydd y wraig fwyaf addfwyn a charedig (sydd wedi cael bywyd braf, ac erioed wedi gorfod cerdded heb esgidiau), yn gwrthod rhannu gyda'r gŵr mae'n ei garu, a'i meibion a'i merched. Bydd canlyniadau'r gwarchae mor ofnadwy, bydd hi'n geni plentyn, ac yna'n dawel fach yn bwyta'r brych a'r plentyn. Dyna pa mor ddrwg fydd pethau pan fydd y gelyn yn gwarchae arnoch chi a'ch cau chi i mewn yn y trefi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd y ddynes fwyaf tyner a mwyaf teimladwy yn eich plith, un mor deimladwy a thyner fel na fentrodd osod gwadn ei throed ar y ddaear, yn gwarafun rhoi i u373?r ei mynwes, nac i'w mab na'i merch,