Deuteronomy 28:58 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon, y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn, gan ofni yr enw gogoneddus ac ofnadwy hwn, YR ARGLWYDD DY DDUW;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Rhaid i chi wneud popeth mae'r gyfraith yn ei ddweud, sef beth sydd wedi ei ysgrifennu yn y sgrôl yma. A rhaid i chi barchu enw gwych a rhyfeddol yr ARGLWYDD eich Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os na fyddi'n gofalu cyflawni holl ofynion y gyfraith hon, a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn, a pharchu'r enw gogoneddus ac arswydus hwn, sef enw yr ARGLWYDD dy Dduw,