Deuteronomy 28:63 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bydd, megis ag y llawenychodd yr ARGLWYDD ynoch i wneuthur daioni i chwi, ac i'ch amlhau; felly y llawenycha yr ARGLWYDD ynoch i'ch dinistrio, ac i'ch difetha chwi: a diwreiddir chwi o'r tir yr wyt yn myned iddo i'w feddiannu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma beth fydd yn digwydd: Yn union fel roedd yr ARGLWYDD wrth ei fodd yn gwneud i chi lwyddo a lluosogi, bydd wrth ei fodd yn eich dinistrio a'ch difetha chi. Byddwch yn cael eich symud o'r wlad dych chi ar fin ei chymryd drosodd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel y bu'r ARGLWYDD yn llawenhau o'th blegid wrth iddo wneud daioni iti a'th amlhau, bydd yn llawenhau o'th blegid yr un modd wrth iddo dy ddifodi a'th ddinistrio. Bydd yn dy ddiwreiddio o'r tir hwn y daethost i'w feddiannu.