Deuteronomy 28:65 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ymhlith y cenhedloedd hyn ni orffwysi, ac ni bydd gorffwystra i wadn dy droed: canys yr ARGLWYDD a rydd i ti yno galon ofnus, a darfodedigaeth llygaid, a thristwch meddwl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fyddwch chi'n cael dim llonydd na gorffwys yn y gwledydd hynny. Bydd yr ARGLWYDD yn eich gwneud chi'n anesmwyth, yn ddigalon a diobaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni chei lonydd na gorffwysfa i wadn dy droed ymhlith y cenhedloedd hyn; bydd yr ARGLWYDD yn rhoi iti yno galon ofnus, llygaid yn pallu ac ysbryd llesg.