Deuteronomy 28:68 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a'th ddychwel di i'r Aifft, mewn llongau, ar hyd y ffordd y dywedais wrthyt, na chwanegit ei gweled mwy: a chwi a ymwerthwch yno i'ch gelynion yn gaethweision ac yn gaethforynion, ac ni bydd a'ch pryno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr ARGLWYDD yn eich rhoi chi ar long, a'ch gyrru chi yn ôl i'r Aifft ar hyd llwybr roeddwn i wedi dweud fyddech chi byth yn ei weld eto. Yno byddwch yn ceisio gwerthu eich hunain yn gaethweision a caethferched i'ch gelynion, ond fydd neb eisiau eich prynu chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr ARGLWYDD yn dy ddychwelyd i'r Aifft mewn tristwch, ar hyd y ffordd y dywedais wrthyt na fyddit yn ei gweld rhagor, ac yno byddwch yn eich cynnig eich hunain ar werth i'ch gelynion fel caethion a chaethesau, heb neb yn prynu.