Deuteronomy 28:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhydd yr ARGLWYDD dy elynion a ymgodant i'th erbyn yn lladdedig o'th flaen di: trwy un ffordd y deuant i'th erbyn, a thrwy saith o ffyrdd y ffoant o'th flaen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr ARGLWYDD yn achosi i'r gelynion sy'n ymosod arnoch chi gael eu taro i lawr o flaen eich llygaid! Byddan nhw'n ymosod arnoch chi o un cyfeiriad, ond yn dianc i bob cyfeiriad!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr ARGLWYDD yn peri i'th elynion sy'n codi yn dy erbyn gael eu dryllio o'th flaen; byddant yn dod yn dy erbyn ar hyd un ffordd, ond yn ffoi rhagot ar hyd saith.